Beth yw Wythnos Senedd y DU?
Mae Wythnos Senedd y DU yn ŵyl flynyddol sy’n cysylltu pobl ledled y DU gyda’u Senedd Teyrnas Unedig, yn archwilio beth mae’n ei olygu iddynt ac yn eu galluogi i gymryd rhan.
Mae’n dechrau gyda chi!
Llynedd cymerodd dros 1.2 miliwn o bobl ran yn Wythnos Senedd y DU, ym mhob cenedl a rhanbarth o’r DU, a gwledydd ledled y byd.
Boed hyn yn dro cyntaf i chi neu eich bod yn ailgofrestru, wrth gymryd rhan byddwch chi’n ymuno â sgwrs ledled y DU am ein democratiaeth, grym y bobl a chreu newid.
Beth mae hyn yn ei olygu i mi?
Pan fyddwch chi’n cofrestru, byddwn ni’n postio pecyn atoch chi gyda nwyddau gan gynnwys llyfryn gweithgaredd, baneri, blwch pleidleisio, sticeri, a rhagor.
Gallwch chi ddewis a dethol o’r opsiynau yn y llyfryn i wneud i’ch gweithgaredd Wythnos y DU weddu i chi a’ch sefydliad, waeth pa amser sydd ar gael i chi a’r grwpiau oedran rydych chi’n gweithio gyda hwy.
Cynlluniwch ymlaen llaw neu agorwch eich pecyn a bwrw iddi. Mae hi mor syml a hyblyg â hynny!
Angen tipyn o ysbrydoliaeth?
Gyda dros 11,800 o weithgareddau llynedd, cafodd Wythnos Senedd y DU ei dathlu ym mhob fath o ffordd. Dyma ychydig o syniadau ar gyfer pob oedran i chi allu dechrau:
- Sesiynau Cwestiwn ac Ateb, cwisiau a dadleuon bywiog
- creu deisebau ac ymgyrchu dros newid
- gwneud fideos a phostio ar-lein
- trafod materion a chynnal pleidleisiau
- gwasanaethau ysgol ar thema ac etholiadau cynghorau ysgolion
- pobi, crefftwaith a lliwio
- ymweliadau gan ASau, Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi, cynghorwyr lleol neu feiri, ACau, Aelodau Senedd Gogledd Iwerddon ac Aelodau Senedd yr Alban
Os ydych chi am archwilio ymhellach neu ddechrau cyn i’ch pecyn gyrraedd gwiriwch ein hadnoddau ar-lein.
Ymunwch â’r sgwrs!
Rydym wrth ein bodd yn gweld eich ffotograffau a chlywed am eich cynlluniau a gweithgareddau. Ymunwch â’r sgwrs gan ddefnyddio ein hashnod #UKPW a dilynwch @YourUKParl am y newyddion diweddaraf.
Gwybodaeth ychwanegol
Darllenwch ein hadran Cwestiynau a Ofynnir yn Aml am wybodaeth ychwanegol.