HYSBYSIAD PREIFATRWYDD WYTHNOS SENEDD 2020
Mae Senedd y DU yn rheoli eich data yn unol â’n cyfrifoldebau o dan y Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn egluro’r data personol a gasglwn gennych a sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth.
Yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, mae ‘ni’, neu ‘ein’ yn cyfeirio at Senedd y DU. Mae popeth yr ydym yn ei wneud gyda’ch data – er enghraifft eu storio, gweithio gydag hwy neu eu dileu – yn cael ei gyfeirio ato fel “prosesu”.
- Amdanom ni
Mae Swyddogion Corfforaethol Tŷ’r Cyffredin (HC) a Thŷ’r Arglwyddi (HL) yn rheolwyr data ar y cyd ar gyfer unrhyw ddata personol a ddisgrifir yn yr hysbysiad hwn.
Y Swyddogion Diogelu Data yw Pennaeth Hawliau Gwybodaeth a Diogelwch Gwybodaeth (IRIS), Tŷ’r Cyffredin a Phennaeth Cydymffurfiaeth Gwybodaeth, Tŷ’r Arglwyddi.
- E-bost: [email protected] neu [email protected]
- Ffôn: 0207 219 4296 (HC) neu 0207 219 0100/8481 (HL)
- Post: IRIS, Tŷ’r Cyffredin, SW1A 0AA neu Tîm Cydymffurfiaeth Gwybodaeth, Tŷ’r Arglwyddi, SW1A 0PW.
- Y data personol a gasglwn
Pan fyddwch yn cyflwyno gwybodaeth i gofrestru digwyddiad wythnos y Senedd byddwn yn storio ac yn defnyddio eich data personol. Mae hyn yn cynnwys: enw, cyfeiriad post, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, eich cyfeiriad IP a manylion pa fersiwn o borwr gwe rydych yn ei ddefnyddio. Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am sut y byddwch yn defnyddio gwefan Wythnos y Senedd, gan ddefnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalen. I gael rhagor o wybodaeth am gwcis a google analytics gweler isod.
Os bydd y person sy’n cofrestru digwyddiad Wythnos y Senedd o dan 18, byddwn yn casglu data personol rhieni neu warcheidwaid a ddylai fod yn gwybod am rannu a defnyddio eu data gan y person sy’n cofrestru.
- Defnyddio eich data personol a seiliau cyfreithlon
Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i brosesu a rheoli cofrestriad eich digwyddiad ac i werthuso’r digwyddiad. Wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, rydym yn dibynnu ar y sail cyfreithlon:
- Mae’r prosesu yn angenrheidiol ar gyfer arfer swyddogaeth o un o’r Tai Seneddol (GDPR Erthygl 6, 9 (e) a DPA Rhan 2, Pennod 2, 8 (b)). Mae allgymorth trwy addysg ac ymgysylltu yn un o swyddogaethau cyhoeddus y Senedd.
- Gyda phwy rydym yn rhannu eich data personol
Rydym yn rhannu eich data â’r prosesyddion canlynol i’n galluogi i gynnal Gwneud Eich Marc:
- Studio 24 sy’n cynnal gwefan Wythnos y Senedd i reoli’ch cofrestriad a gwerthuso’r digwyddiad.
- Ark-H Handling cwmni dosbarthu trydydd parti sy’n anfon pecynnau Wythnos y Senedd ar ôl cofrestru
- DA Languages Ltd gwasanaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd trydydd parti.
- Cyngor Ieuenctid Prydain gweithwyr/contractwyr elusen trydydd parti sy’n rheoli Gwneud Eich Marc a Senedd Ieuenctid y DU. Mae’n bosibl y bydd BYC yn rhannu eich data ag Awdurdodau lleol a phartneriaid cyflenwi gan gynnwys YouthFocusNW, Uned Gwaith Ieuenctid Swydd Efrog a Humber, Plant yng Nghymru a Senedd Ieuenctid yr Alban.
Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn datgelu eich data personol i drydydd parti lle caniateir i ni wneud hynny megis sefydliadau eraill lle mae sail gyfreithlon yn bodoli. Os byddwch yn rhannu ffotograffau neu recordiadau fideo o ddigwyddiad Wythnos y Senedd, gellir atgynhyrchu’r rhain trwy sianel YouTube, tudalen Flickr, neu broffiliau Twitter, Instagram a Facebook y Senedd, Cylchlythyr Addysg ac Ymgysylltu’r Senedd, gwefan Wythnos y Senedd, gwefan Senedd y DU; a deunyddiau a gomisiynir gennym i hyrwyddo, hysbysebu neu addysgu pobl am y Senedd. Darperir gwybodaeth ychwanegol yn ein telerau ac amodau.
- Storio a diogelwch
Rydym yn cymryd diogelwch eich data personol o ddifrif. Bydd yr holl ddata personol y byddwch yn eu rhoi i ni yn cael eu storio’n ddiogel, yn gorfforol ac yn electronig. Mae gennym broses ddiogelu gwybodaeth yn ei lle i oruchwylio prosesu eich data personol yn effeithiol a diogel.
Er mwyn ein galluogi i gadw mewn cysylltiad â chi ar ôl i wythnos y Senedd ddod i ben, byddwn yn cadw eich data personol am gyfnod o 1 flwyddyn ar ôl dyddiad gorffen y rhaglen . Unwaith y bydd y cyfnod hwn wedi mynd heibio, bydd y data personol yn cael eu gwaredu yn ddiogel. Os nad ydych am i ni gysylltu unwaith y bydd y rhaglen yn dod i ben, neu os hoffech i ni roi’r gorau i gysylltu â chi ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwn o 1-flwyddyn, cysylltwch â ni a byddwn yn tynnu eich manylion o unrhyw restrau postio a chael gwared ar eich data personol . Ceir gwybodaeth ychwanegol am gyfnodau cadw yn Ymarfer Awdurdodedig Gwaredu Cofnodion (ARDP) y Senedd.
- Eich hawliau
Byddwn yn sicrhau y gallwch chi arfer eich hawliau mewn perthynas â’r data personol a ddarperir gennych i ni, er enghraifft:
- Lle rydym yn dibynnu ar eich caniatâd i ddefnyddio eich data personol, gallwch dynnu’r caniatâd wrth ddad-danysgrifo o’n gwasanaethau neu ysgrifennu at y Swyddogion Diogelu Data.Mae manylion ar gael ar frig yr hysbysiad hwn.
- Gallwch ofyn am fynediad at y data personol sydd gennym amdanoch chi neu ofyn am ddata penodol mewn fformat sy’n darllenadwy i beiriant wrth gysylltu â’r Swyddogion Diogelu Data.
- Gallwch ofyn i ni i ddiweddaru eich data personol os bydd yn newid. Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i ni ddileu y data personol sydd gennym, neu ofyn i ni roi’r gorau i brosesu neu gyfyngu arno os oes gennych wrthwynebiad.
- Os oes gennych unrhyw bryderon yn ymwneud â defnyddio eich data personol, gallwch gwyno wrth y Swyddogion Diogelu Data.
Mae manylion llawn am eich hawliau ar gael gan y rheoleiddiwr, swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
- Yr hawl i gwyno
Os ydych yn anfodlon ar y gwaith o brosesu eich data personol gan y Senedd, dylech gysylltu â’r Swyddogion Diogelu Data, y mae eu manylion uchod.
Mae gennych hefyd yr hawl i gwyno i’r awdurdod goruchwylio, swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
- Post: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.
Defnydd o’r wefan a cwcis
Wrth ddeall sut mae pobl yn defnyddio gwefan Wythnos y Senedd, gallwn wneud gwelliannau i’r llywio a’r cynnwys i wneud y wefan yn well ac yn haws i gael mynediad ato.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i gasglu data ar nifer y bobl sy’n defnyddio ein gwefan, o ble maent yn cael mynediad , pa dudalennau y maent yn ymweld â nhw, a pha dechnoleg y maent yn ei defnyddio. Nid yw Google Analytics yn gallu eich adnabod yn bersonol, ond mae’n ein caniatáu i ddeall ein defnyddwyr fel grŵp, er enghraifft wrth gofnodi pa borwyr sy’n cael eu defnyddio
Mae’r cwcis canlynol (ffeiliau data bach a grëwyd ar eich cyfrifiadur) yn cael eu gosod gan Google Analytics:
Enw’r cwci | Amser dod i ben | Disgrifiad |
_ga | 2 flynedd | Fe’i defnyddir i adnabod defnyddwyr. |
_gid | 24 awr | Fe’i defnyddir i adnabod defnyddwyr. |
_gat | 1 munud | Defnyddir i sbarduno cyfradd cais. Os yw Google Analytics yn cael ei ddefnyddio trwy Rheolwr Tag Google, bydd y cwci hwn yn cael ei enwi _dc_gtm_. |
googtrans | 1 flwyddyn | cod iaith y dudalen bori ddiwethaf |
Nid yw ein cwcis yn cael eu defnyddio i’ch adnabod chi’n bersonol. Maent yma i wneud i’r wefan weithio yn well i chi yn unig. Yn wir, gallwch reoli a / neu dileu ffeiliau bach hyn fel y dymunwch. I ddysgu rhagor am gwcis a sut i’w rheoli, ewch i AboutCookies.org. Mae cwcis yn cael eu defnyddio hefyd mewn mannau eraill ar y wefan, gan gynnwys gan y system rheoli cynnwys a ddefnyddir gennym, WordPress. Mae’r rhain yn gwella pethau wrth gofio gosodiadau, felly nid oes rhaid i chi eu hailgofnodi pryd bynnag y byddwch yn ymweld â thudalen newydd, yn mewngofnodi neu’n gadael sylw.