Eleni bydd yr Urdd yn cyfranogi yn #UKPW am y tro cyntaf, a ffocws ein gweithgareddau fydd parch a dealltwriaeth

Yr Urdd yw mudiad ieuenctid mwyaf Cymru gyda dros 57,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed. Rydyn ni’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg gan eu helpu i ddatblygu’n unigolion cyflawn a fydd yn gallu chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas a’u cymunedau.  Rydym yn falch i fod yn cyfranogi yn Wythnos Senedd y DU am y tro cyntaf!

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai heriol ar lefel gwleidyddol.

Mae ein haelodau ifanc wedi tystio chwalfa wleidyddol yn sgil refferendwm Brexit ac ymddangosiad ffurf arbennig o ymrannol a gelyniaethus o wleidyddiaeth o fewn y DU.

Mae tôn dadleuon gwleidyddol hefyd wedi cymryd tro er gwaeth; gydag ymosodiadau personol yn fwyfwy cyffredin, yn arbennig dros y cyfryngau cymdeithasol.  Mae gwleidyddion benywaidd a Du, Asiaidd a Lleiafrifodd Ethnic (BAME) wedi dioddef yn arbennig ac mae hyn yn anerbyniol. Mae’n siom fod profiad cynifer o bobl ifanc o brosesau democratiaeth wedi eu lliwio gan y cyfnod hwn.

Rydym yn awyddus i ddefnyddio gweithgareddau Wythnos Senedd y DU fel cyfle i fodelu gweithgareddau gwleidyddol a democrataidd sy’n oddefgar a chynhwysol eu naws.  Mae’n gyfle i ni ddod a’n haelodau at ei gilydd i drafod yr hyn sy’n bwysig iddynt, ond hefyd gwrando ar yr hyn sy’n bwysig i eraill.

Yn lle trafod dros fforymau ar-lein, bydd y trafodaethau yn rhai wyneb yn wyneb, a byddwn yn cofio fod syniadau yn perthyn i bobl; a theimladau a phrofiadau ganddynt.

Byddwn yn cofio ei fod yn bwysg i fod yn hyblyg, i gwestiynu’r hyn a glywn ac bod yn agored i syniadau newydd.  Y gallwn addasu ein safbwyntiau yn barhaol.  Mae’n bwysig cyfaddawdu, chwilio am y ‘tir cyffredin’ a chonsensws lle y gallwn. Bydd pynciau llosg fel Annibyniaeth i Gymru, iechyd Meddwl a’r Amgylchedd dan drafodaeth.   Byddwn hefyd yn edrych ar y potensial sydd gan bobl ifanc i ddylanwadu’r agenda gwleidyddol cyfoes, fel y gwelwyd gyda streiciau ysgolion yn ddiweddar.

Mae elfen wleidyddol a blaengar i wedi bod i waith yr Urdd erioed. Ers ei sefydlu yn 1922 mae ieuenctid yr Urdd wedi bod yn llunio neges o Heddwch ac Ewyllys da at blant a phobl ifanc y byd, ar yr 18 o Fai bob blwyddyn.  Gwnaethpwyd hyn drwy ryfeloedd byd a newidiadau sylweddol mewn dulliau cyfathrebu. Yr Urdd oedd un o’r mudiadau cyntaf i groesawu Almaenwyr ifanc wedi’r Ail Ryfel Byd ac rydym yn parhau i weithio ar ddatblygu ein cysylltiadau rhyngwladol heddiw.  Rydym yn hyderus y gallwn oresgyn y cyfnod presenol o anghydfod cymdeithasol, fel y gwnaethpwyd droeon yn y gorffennol, os weithiwn ni gyda’n gilydd.